UK Linguistic Ethnography Forum

 

The UKLEF website has now moved.  This is an archive site. 

Please go to www.ling-ethnog.org.uk for the up-to-date site.

 

 

UKLEF Home

 

About us

Events

Participants

Email list

Papers

 

BAAL

 

 

Ail seminar ymchwil

 

Canolfan Gynadleddau Prifysgol Cymru, Gregynog

 

Ebrill 27-28, 2002

 

 English

Cynhaliwyd ail seminar ymchwil Grwp Diddordeb Arbennig BAAL ar Ethnograffeg Ieithyddol yng Nghanolfan Gynadleddau Prifysgol Cymru Gregynog (ger y Drenewydd, Powys) ar benwythnos Ebrill 27 - 28, 2002. Cefnogwyd y seminar gan grant o Gronfa Ymchwil Prifysgol Cymru Aberystwyth (PCA) a’r trefnyddion lleol oedd Marilyn Martin-Jones (Addysg) a Wini Davies (Ieithoedd Ewropeaidd).

Prif amcan y seminar oedd ymestyn a datblygu ymhellach yr ymgom am theori a methodoleg mewn ymchwil ethnograffig ar iaith a llythrennedd a ddechreuwyd yn y seminar gyntaf yn y gyfres ym Mhrifysgol Caerlyr (manylion i’w gweld ar http://www.ling.lancs.ac.uk/groups/lingethn/leicester2001.htm). Ymestynwyd a datblygwyd yr ymgom hwn mewn pedair prif ffordd yng Ngregynog:

· Drwy ystyried cwestiynau sy’n codi o ymchwil ethnograffig mewn cyd-destun dwy-ieithog ac amlieithog a sy’n berthnasol i theori a methodoleg;

· Drwy ail-ymweld â’r cysyniad o ‘genre’ a myfyrio ar ei ddefnydd mewn ymchwil ethnograffig ar iaith a llythrennedd;

· Drwy drafod y syniadau am ethnograffeg a gyflwynir ym Maniffesto y cyfnodolyn newydd Ethnography a thrwy archwilio y rhain yng ngyd-destun ymchwil ddiweddar ym maes ethnograffeg ieithyddol;

· Drwy archwilio cwestiynau yn codi o ymchwil ethnograffig ar iaith a llythrennedd a gyflawnir gan unigolion a thimau ymchwil.

Mabwysiadwyd y thema gyntaf gan fod y seminar yn cael ei chynnal mewn cyd-destun dwy-ieithog yng Nghymru. Roedd y siaradwyr gwadd i gyd wedi cyflawni ymchwil ddiweddar ar iaith a llythrennedd mwn cyd-destun dwy-ieithog. Y siaradwyr oedd: Alexandra Jaffe (Prifysgol California yn Long Beach - ymchwil yng Nghorsica); Kathryn Jones (Prifysgol Lancaster a Chwmni Iaith - ymchwil yn ngogledd ddwyrain Cymru) a Joan Pujolar i Cos (Prifysgol Agored Catalwnia - ymchwil ym Marcelona).

Roedd 40 o gyfrannwyr, gan gynnwys y siaradwry gwadd. Gwnaeth hyn hi’n bosibl i drefnu y rhan fwyaf o’r digwyddiad fel cyfres o drafodaethau llawn o gwmpas un bwrdd, gyda chyfle i bawb gyfrannu. Roedd cymysgedd da o ymchwilyddion newydd a mwy profiadol, gan gynnwys 8 myfyriwr/-wraig ymchwil.

Roedd dau fath o sesiwn a siarad yn fras: (1) Rhai a oedd yn ystyried cwestiynau yn codi o weithgarwch ymchwil; (2) rhai gyda ffocws mwy cysyniadol (er nad oedd hwn yn wahaniaeth haearnaidd). Roedd chwech sesiwn i gyd, gyda phump o’r rhain yn sesiynau llawn. Defnyddwyd un sesiwn, ar y nos Sadwrn, ar gyfer trafodaethau mewn grwpiau bychain. Ceir crynodeb byr o’r rhaglen a’r themau cyffredinol isod:

Sadwrn, Ebrill 27

Sesiwn gyntaf lawn: Ethnograffeg ieithyddol mewn cyd-destunau amlieithog. (Cyflwyniadau gan Alexandra Jaffe, Kathryn Jones a Joan Pujolar, gyda thrafodaeth yn dilyn.)

Yr ail sesiwn lawn: Y cysyniad o ‘genre’ mewn ethnograffeg iethyddol. (Trafodaeth a arweiniwyd gan Janet Maybin, Ben Rampton a Karin Tusting wedi ei seilio ar ddarlleniadau o Bakhtin, Fairclough, Hanks, Kress a Halliday & Hasan a ddewiswyd cyn y seminar.)

Trafodaeth mewn grwpiau bychain: Ymchwil ethnograffig am iaith a llythrennedd gan unigolion a grwpiau ymchwil.

Dydd Sul, Ebrill 28

Y drydedd sesiwn lawn: Adborth o’r trafodaethau mewn grwpiau bychain a thrafodaeth gyffredinol ar y cwestiynau a gododd. Arweiniwyd y sesiwn hon gan David Barton.

Y bedwaredd sesiwn lawn: Maniffesto y cyfnodolyn newydd Ethnography: cysylltiadau gydag ymchwil ethnograffig ar iaith a llythrennedd. (Agorwyd y drafodaeth yn y sesiwn hon gan Helen Street, dirprwy olygydd y cyfnodolyn, a gan ymateb i’r Maniffesto gan Brian Street.)

Y bumed sesiwn lawn: Tynnu allan prif themau y seminar. (Agorwyd y drafodaeth gyda mewnbwn oddi wrth Rosaleen Howard, Gemma Moss a Jane Freeland.)

Ymgasglodd y cyfrannwyr eto ar ôl cino ar y dydd Sul i gynllunio am y dyfodol ac i ystyried syniadau ar gyfer gweithgareddau eraill. Penderfynwyd, yn ogystal â chynnal Colociwm yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol BAAL, y byddid yn trefnu seminar arall yng ngwanwyn 2003 ac y byddid yn cario rhai o’r themau o’r drafodaeth yng Ngregynog ymlaen i’r seminar honno.

Ceir manylion am diddordebau ymchwil ac ymchwil gyfredol y cyfrannwyr yma. Mewn amser fe fydd y manylion yma ar gael o wefan Grwp Diddordeb Arbennig BAAL ar Ethnograffeg Ieithyddol.

Mae neuadd Gregynog, lle cynhaliwyd y seminar, ychydig o filltiroedd y tu allan i’r Drenewydd, Powys. Ceir mwy o fanylion am Gregynog yma.

 

[Adapted from a page initially created by Alison Vaughn.]

 

 

Site created and maintained by Karin Tusting, k.tusting@lancaster.ac.uk.  Last updated 09/01/2007