Dwi'n canu yng Nghôr Rhuthun a chanais gynt gyda Phil A'r Monics, fel ar Noson Lawen neu yn Llanfair Dyffryn Clwyd. Ac mae Meibion Marchan yn ymddangos o bryd i'w gilydd hefyd! (Ewch i Meibion Marchan a chliciwch am ryfeddod prin!)
Canu
Cynganeddu
Dwi'n ceisio cynganeddu: be' 'da chi'n meddwl o'r rhain?
Cyfrwys, o bwys yw'r boson - anoddach
I'w naddu na'r lepton;
Un fflach, byrrach na'r baryon!
Gronyn? Ai tennyn? Ai ton?
Rhodd annwyl yw barddoni - er mantais
Rhamantus yr odli
Moethus mwyn yw maths i mi:
Rhagluniaeth o raglenni!
Fel derwen o fesen fydd - fel o had
Try'n flodau ysblenydd;
Meddir, mynnir f'ymenydd
Gan echdoriad, syniad sydd!
Oes gorchwyn fel disgyrchiant - heb wifrau
Na ffiniau i'w ffyniant?
Gwlaw o'r nef a ddaw i'r nant
Heb blws na minws, mynnant!
Dyna'r gamp: gweld o'r don a'r gwynt - mai maths,
Mam môr, lifa drwyddynt,
Troer yr haul a'r lloer! Eu hynt
Sy'n dirnad curiad cerrynt.
"Un, dau" oedd hadau'r adio - bu'r tynnu
Bryd hynny'n ffiasgo!
Ysaf nawr am safon "O"
A gradd mewn integreiddio!
Milltir sgwâr
Dwi'n wreiddiol o Odre'rGraig yng Nghwm Tawe; dilynwch y doleni am ychydig o hanes y Graig Arw a llysenwau Ystalyfera. Ond bellach fe'm mabwysiadwyd gan Rhuthun! Dewch i'r Annibyn-ffest f'ama!